Testo Suo Gân

Testo Suo Gân

Huna blentyn yn fy mynwes
Clyd a chynnes ydyw hon
Breichiau mam sy'n dyn am danat,
Cariad mam sy dan fy mron

Ni cha dim amharu'th gyntun
Ni wna undyn â thi gam
Huna'n dawel, anwyl blentyn
Huna'n fwyn ar fron dy fam.

Huna'n dawel, heno, huna,
Huna'n fwyn, y tlws ei lun
Pam yr wyt yn awr yn gwenu,
Gwenu'n dirion yn dy hun?

Ai angylion fry sy'n gwenu
Arnat ti yn gwenu'n llon

Tithau'n gwenu'n ol dan huno
Huno'n dawel ar fy mron?

Paid ag ofni, dim ond deilen
Gura, gura ar y ddor
Paid ag ofni, ton fach unig
Sua, sua ar lan y mor

Huna blentyn, nid oes yma
Ddim i roddi iti fraw

Gwena'n dawel yn fy mynwes
Ar yr engyl gwynion draw.
Testi Christian Bale